News Archive


Freight Best Practice News

Lansio Cynllun Cyngor Am Ddim Ar Gyfer Gwei...

Daeth cynllun cyngor am ddim a anelir at wella effeithlonrwydd Diwydiant Cymru drwy ostwng allyriadau carbon a lleihau costau gweithredu i rym heddiw. (Dydd Mawrth Tachwedd 06) Lansiwyd y rhaglen Cludo Nwyddau: Arfer Gorau yng Nghymru gan y Dirprwy Weinidog dros Adfywio, Leighton Andrews AC yn Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd. Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Adfywio wrth siarad yng Nghynhadledd Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth ‘Logisteg Cymru 2007’: ‘’Mae'r rhaglen Cludo Nwyddau: Arfer Gorau yn dangos ymrwymiad parhaus Llywodraeth y Cynulliad i gefnogi Diwydiant Cymru ac mae'n unol â nodau ac amcanion ‘Cymru'n Un’. ‘Bydd y fenter newydd hon yn helpu i gyflwyno ein hymrwymiad i Strategaeth Nwyddau Cymru er mwyn grymuso gweithredwyr gyda'r dulliau a'r wybodaeth gywir i wella eu perfformiad gweithredol ac amgylcheddol. Ychwanegodd: ‘’Mae'n bleser gennym fod y rhaglen ar gael bellach i weithredwyr yng Nghymru. Mae ganddi enw da am wneud gwahaniaeth; mae'n arbed arian i weithredwyr ac mae'n helpu i leihau eu hôl troed carbon.’’ Mae Cludo Nwyddau: Arfer Gorau yng Nghymru yn rhoi cyngor effeithlonrwydd gweithredol am ddim i weithredwyr nwyddau yng Nghymru ar ffurf canllawiau arfer gorau a deunyddiau cymorth a anelir at dorri'r defnydd o danwydd ac allyriadau CO2. Mae'r rhaglen yn cwmpasu pum maes allweddol - arbed tanwydd, datblygu sgiliau, offer, effeithlonrwydd gweithredol a Rheoli Perfformiad. Mae Cludo Nwyddau: Arfer Gorau yng Nghymru, a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac a gyflawnir gan Faber Maunsell Cyfyngedig, yn adeiladu ar lwyddiant y rhaglen a noddwyd gan yr Adran Drafnidiaeth yn Lloegr. O weithredu'r rhaglen yng Nghymru, disgwylir i allyriadau carbon ostwng o 11,050 o dunelli i 44,200 o dunelli'r flwyddyn. Gan ddefnyddio methodolegau prisio presennol, mae hyn yn gyfystyr ag arbed cost allanol o rhwng £265,173 a £1,060,691. Disgwylir i weithredwyr Cymru sy'n mabwysiadu'r rhaglen arfer gorau arbed rhwng £3,299,000 a £13,194,000 ar gostau gweithredu blynyddol. Gellir cael holl wybodaeth y rhaglen naill ai drwy ffonio Llinell Gymorth Cludo Nwyddau: Arfer Gorau ar 0845 877 0 877 neu drwy ymweld â www.freightbestpractice.org.uk





Welsh Assembly government Logo